Sunday 24 June 2012

Dydd Sul - 24.06.12

Ni hao o Tseina!!
Wel am ddiwrnod diddorol heddiw!
Dechreuodd y diwrnod gyda’r brecwast diddorol arferol o sudd oren (am y tro cyntaf ers i ni gwyno bob bore!!), beansprouts, crulla, tato melys a bresych!!!
Aethon ni yn gyntaf i Hulishan fortress ble welson ni gynnau enfawr a oedd yn amddiffyn  Tseina rhag ymosodiadau gan sawl gwlad gan gynnwys Taiwan a Siapan. Roedd un gwn yn 14 metr o hyd!!! Gwelon ni filwyr Cing yn saethu gynnau tra’n gwneud sioe. Roedd gan y milwyr 8 baner gwahanol a gwisgon nhw arfwisg melyn llachar gyda gweywffin haearn cryf. Ar ôl gadael y castell fe gollon ni Scott!! Yn y diwedd ffeindiwyd Scott yn y carchar tan ddaearol!!!!! Er bod y plant i gyd yn gwrando ar y rheol o beidio crwydro yn amlwg dydy’r oedolion ddim mor sylwgar!
Dydyn ni ddim am son dim am y tywydd bore ma – erbyn y prynhawn fe gododd y tywydd yn braf ac yn chwilboeth unwaith eto.
Cafon ni ginio am 11 mewn bwyty diddorol – rydyn ni’n siwr bod ambell un wedi cael ychydig mwy o brotîn nag oedd i fod yn y bwyd gan bod lot fawr o bryfed o amgylch!!!
Ar ôl cinio aethon ni ar gwch draw i Ynys Gulangyu. Ar yr ynys dringon ni i ben ‘Sunlight rock’. Yn y gwres roedd hyn yn dipyn o sialens i ni gyd! Mae’n cael ei alw yn ‘Sunlight rock’ oherwydd dyma’r lle cyntaf i weld golau yr haul bob bore. Roedd yr olygfa o ben y graig yn syfrdanol. Wrth droed y graig roedd yna ddrysfa Tseiniaidd gyda’r 12 anifail sy’n cynrychioli y blynyddoedd. Cafon ni hwyl yn rhedeg o amgylch yn chwilio am y cerflyniau ac yn cuddio mewn twneli bach.
Nesaf cafon ni amser i siopa. Dysgodd Adam yn go gloi sut i fargeinio gyda’r gwerthwyr! Defnyddiodd ei sgiliau i hanneru’r pris – watch out Lord Sugar!! Prynnon ni ambell beth ond mae merched Lansdowne yn amlwg yn hoffi siopa yn fwy na ni!
Gan bod Mr Edwards o Lansdowne wedi bod yn son am Starbucks trwy’r wythnos aethon ni i gyd yna ar y ffordd yn ôl i’r gwesty. Gollyngodd Nate ei gacen ar y llawr ond llwyddodd Mr Thomas i arbed hanner!
Mae’r penwythnos nawr ar ben fe fyddwn ni yn ôl yn ein gwersi yn y bore yn barod i ddysgu mwy o Fandarin!
Zai Tien x
Nate, Bronwen, Gwen, Adam, Mr Thomas a Miss Davies


Teithio ar gwch i Ynys Gulangyu.


Dyma ni wedi cyrraedd ben 'Sunlight Rock'.



Nate gyda un o milwyr Cing.


Lord Adam Sugar!


Bronwen yn chwys domen ar ôl bod yn rhedeg o amgylch y drysfa!

Amser Cinio:

Cafon ni ginio diddorol heddiw gyda phob math o fwyd y môr.
Buodd Gwen yn ddewr iawn a blasu 'oysters'!
Ydych chi'n meddwl yr oedd hi'n hoffi nhw...?
 
 








24.06.2012