Tuesday 26 June 2012

Dydd Mawrth - 26.06.12






Rydym wedi cyrraedd Chongqing yn ddiogel. Fe ddeffron ni am 7:00 o’r gloch a fe wisgon a neud yn siwr nag oedden wedi gadael unrhyw beth o dan y gwely. Ffeidion ni gwpwl o ffrindiau o dan y gwely (anifeiliaid wedi marw). Wedyn aethon ni i gael brecwast, roedd yna ddigon o sudd oren diolch byth. Aethon ni i nol ein bagiau a cerddon ni lawr i’r bws.  Cyrhaeddon ni’r maes awyr am 10:00 a rhoddon ni ein bagiau ar y belt. Roedd bag Mr Thomas yn pwyso 24kg roedd i fod o dan 15kg!!!!!!!!  Aethon ni i Starbucks a cefais frappuchino caramel. Aethon ni ar yr awyren a gwrandawon ar y radio. Fe ddarllenais ‘Billionaire Boy’ ar yr awyren. O’r diwedd cyrhaeddon ni Chongqing, casglon ein bagiau a mynd ar y bws. Dyma rhai o’r ffeithiau dywedodd y tywysydd wrthom ar y bws:
·      Mae yna 23 o fontydd yn Chongqing.
·      Y prif bethau mae nhw’n allforio yw ceir, beiciau modur, tanciau, gyniau a bwledi.
·      Gelwir Chongqing yn Foggy City (oherwydd ei fod mor niwlog),Traffic City (oherwydd y traffig) a Mountain City oherwydd y mynyddoedd.
·      Cafodd y bont cyntaf ei hadeiladu yn y flwyddyn 1966.
·      Erbyn y flwyddyn 2000 roedd 4 pont yn Chongqing.
·      Blwyddyn nesaf mae 10 pont newydd yn cael ei hadeiladu yn Chongqing.
·      Mae pob mynydd rhwng 200-800 metr o daldra.
·      Mae pob ‘skyscraper’ yn o leiaf 200m o daldra.
·      10 mlynedd yn nol roedd llawer iawn o dir Chongqing yn dir amaethyddol er mwyn tyfu reis.
·      Mae yna ddau afon yn llifo trwy Chongqing, Yr afon Yangzhe a’r afon Jaling.
·      Mae 90% o bobl Chongqing yn byw mewn fflatiau a mae’r pobl sydd yn byw mewn tai yn bobl cyfoethog iawn.
·      Mae’r system trenau yma wedi cael ei ddefnyddio yn yr ail ryfel byd.
·      Mae map Chongqing yn cael ei newid bob 3 mis oherwydd bod llawer o ddatblygiadau yn digwydd.
·      Yn ystod yr ail ryfel byd Chongqing oedd y dinas pwysicaf.
·      Bomiodd Japan Chongqing a dim ond treuan y ddinas oedd ar ôl, ar ôl i’r bomio orffen.
·      Mae yna ynys yn Chongqing a mae’r ddwy afon yn ei hamgylchynu.

Cyrhaeddon ni’r gwesty a roedd yna ddyn Tseiniaidd yn meddwl taw Miss Davies a Mr Thomas oedd mam a dad ni’n pedwar!!!
Aethon ni i swper a rhwbiais fy llygaid pan oedd yna chili ar fy nwylo, roedd hynny’n beth chili i neud (sori, sili).Roedd y bwyd yn sbeislyd iawn.

Rydyn ni’n edrych ymlaen i ddysgu mwy am Chongqing yn y dyddiau nesaf.


Hwyl fawr Gwen, Adam, Nate a Bronwen xxxx