Friday 29 June 2012

Dydd Iau - 28.06.12

Codon ni yn gynnar bore ma, roedd yn rhaid cael brecwast a bod ar y bws erbyn hanner awr wedi 8 gan ein bod yn mynd i’r ysgol. Gwisgon ni gyd yn smart a bant a ni. Cafon ni wersi caligraffi, celf a Saesneg. Yn y wers gelf peintion ni gyd gwyntyll gyda blodau a pili pala. Cafon ni gyd ffrind arbennig, roedden nhw i gyd yn garedig iawn. Prynodd bob un anrheg i ni.
Ar ol gorffen ein gwersi aethon ni am ginio gydag athrawon yr ysgol. Wel am brofiad byth gofiadwy oedd hwn. Roedd gan bob un ohonom powlen o olew sbeislyd berwedig ag roedd yn rhaid i ni ddefnyddio hwn i goginio ein bwyd ni. Buodd Gwen yn ddewr unwaith eto. Blasodd hi coluddyn bach hwyaden a stwmog buwch – roedd ei gwyneb yn bictwr unwaith yn rhagor!!!
Ar ol cinio cafon ni amser i grwydro o amgylch rhan o’r dref. Buon ni gyd yn bargeinio heddiw diolch i arweiniad Adam Ddydd Sul!!
Treulion ni amser cyn swper yn paratoi a pherfformio golygfa bwyty Mandarin. Ffilmiodd Scott yr olygfa i ni ddangos i bawb ar ol dod adref.
Gan ei fod yn benblwydd ar Miss MacFadyen heddiw a Adam yfory aethon ni allan i Kareoke booth heno, ble buon ni wrth ein boddau yn canu pob math o ganeuon. Mae’n draddodiad yma yn Tseina i gwyr busnes ganu Kareoke gyda’i gilydd cyn gwneud unrhyw fusnes! 
Yfory rydyn ni’n mynd i Dazu i weld cerfluniau carreg. Daeth y cerfluniau yma i’r amgueddfa yng Nghaerdydd y llynedd. Dyma’r tro cyntaf i nhw ddod allan o Tseina ers 3000 o flynyddoedd. Rydyn ni’n edrych ymlaen i’w gweld a dysgu mwy amdanyn nhw yfory.
Zai tien, nos da cariad Nate, Gwen, Bronwen, Adam, Mr Thomas a Miss Davies xxx

Ein Ffrindiau yn yr ysgol.


Nate yn gwneud Kareoke!


Mr Thomas yn joio!